Pethau Bob Dydd
Y cam cyntaf yn unig yw brecwast …
Mae ein fideo ‘Pethau Bob Dydd’ yn mynd â chi ar siwrnai i ddarganfod sut mae ffermio llaeth yn cyffwrdd â’n bywydau bob dydd.
Mae’n golygu mwy na’r llaeth ar eich grawnfwyd neu’r menyn ar eich tost, mae’n ymwneud â’r olygfa gyfarwydd o gaeau’n llawn gwartheg, gŵyl gerddoriaeth a gynhelir ar fferm, gwersylla yng nghefn gwlad neu hyd yn oed mynd am dro yn y wlad. Mae’r holl bethau hyn yn bosibl am fod ffermwyr llaeth Prydain yn gweithio mewn ffyrdd sy’n helpu i gynnal yr amgylchedd.
Mae ein ffermwyr llaeth yn tocio’r gwrychoedd, yn plannu coed a choetiroedd ac yn creu pyllau, er mwyn i fywyd gwyllt lleol ffynnu a chyd-fyw, ac er mwyn i ni allu parhau i fwynhau cefn gwlad.
Maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd o leihau’u hallyriadau tŷ gwydr hefyd. Yn wir, erbyn heddiw, mae allyriadau tŷ gwydr ffermydd llaeth y DU yn cyfrif am 2% yn unig o holl allyriadau’r DU - o’i gymharu â 25% ar gyfer traffig y DU.
Mae rhai ffermwyr llaeth hyd yn oed yn gwneud trydan o dail gwartheg! Maen nhw’n defnyddio ‘treuliwr anaerobig’ sy’n achosi i’r tail bydru a chynhyrchu bio-nwy, y gellir ei droi’n drydan a’i fwydo i’r Grid Cenedlaethol.
Mae ffermwyr yn gwneud mwy na chynhyrchu bwyd – maen nhw hefyd yn gwarchod cefn gwlad. Maen nhw’n gweithio mewn harmoni â’r amgylchedd i gadw Prydain yn hardd ac yn amaethu am byth.