Gwarchod harddwch ein cefn gwlad a chynnal ffermio llaeth. Cymerwch y Llw Llaeth: chwiliwch am logo ansawdd, fel y Tractor Coch, ar eich holl gynnyrch llaeth fel arwydd o fwyd y gallwch ymddiried ynddo.
Cymerwch y Llw LlaethMae cynllun sicrwydd bwyd mwyaf y Deyrnas Unedig, y Tractor Coch, yn sicrhau bod modd ichi olrhain y bwyd rydych yn ei brynu, ei fod yn ddiogel i’w fwyta, ac wedi’i gynhyrchu mewn ffordd gyfrifol - o’r fferm i’r fforc! Chwiliwch am logo ansawdd ar becynnau, nid dim ond llaeth, ond cynnyrch arall fel menyn, caws ac iogyrt.
Arwydd o fwyd safonol y
gallwch ymddiried ynddo.
Mw-w-w-wy am y fuwch
Er mwyn gallu olrhain cynnyrch llaeth, rhaid i ffermwyr gadw cofnodion cynhwysfawr o’u da byw. Mae gan bob buwch laeth basbort unigryw sy’n cynnwys enw’i mam, ei man geni ac unrhyw symudiadau trwy gydol eu hoes.
Rydym yn cymryd amser i ffwrdd o’r fferm laeth i ymddangos mewn digwyddiadau ar draws y wlad. Yn ogystal â chwifio baner ffermio llaeth yn ein rhanbarthau unigol, byddwn yn esbonio - yn ein geiriau’n hunain - beth mae ffermio llaeth yn ei olygu i ni ac i’r Deyrnas Unedig gyfan.
Mae bod yn ffermwr llaeth yn rhoi cymaint o foddhad, yn enwedig y bridio. Rwy’n dychmygu sut rai fyddan nhw pan fyddan nhw’n fuchod llawn dwf, a sut fyddwn ni’n cydweithio fel tîm i gynhyrchu llaeth yn y dyfodol.
Abi Reader
Amcangyfrifir bod
yna tuad 1,547,000 o fuchod llaeth ym Mhrydain
Yn cynhyrchu tua
11 ½ Biliwn litr o laeth y flwyddyn.
digon ar gyfer dros 35,000 bowlenaid o rawnfwyd!
Trwy ein gweithgareddau, rydym yn siapio’n tirwedd fendigedig ac yn helpu’n bywyd gwyllt i ffynnu. Dyna un o’r nifer o resymau dros ofyn am eich cefnogaeth chi. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth. Mae yn ein dwylo ni – ac mae’n haws nag y byddech chi’n tybio.