Telerau ac Amodau
- Yn agored i breswylwyr Prydain Fawr yn unig (Lloegr, Yr Alban a Chymru) sy’n 18 oed neu drosodd, heblaw am staff DairyCo a’u teuluoedd, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), sefydliadau ffermio llaeth, cwmnïau cyswllt, eu hasiantau neu unrhyw un sydd â chysylltiad proffesiynol â’r hyrwyddiad hwn.
- Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 10fed Chwefror – 21ain Mawrth. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd ar 21ain Mawrth 2014.
- Ni dderbynnir ceisiadau gan drydydd parti neu glybiau. Rhaid i unrhyw gais ddod yn uniongyrchol o’r person sy’n cymryd rhan yn yr hyrwyddiad.
- Does dim angen prynu unrhyw beth. Rhaid cwblhau’r holl geisiadau ar-lein ar www.thisisdairyfarming.com
- Dim ond un cais a ganiateir gan bob person neu gyfeiriad e-bost. Os derbynnir mwy nag un cais o’r un cyfeiriad e-bost, neu o gyfeiriad e-bost gwahanol gan yr un person, ystyrir ceisiadau o’r fath yn anghymwys.
- Unwaith eu bod yn rhan o’r hyrwyddiad, ystyrir bod yr holl gyfranogwyr wedi derbyn a chytuno i gadw at y telerau ac amodau hyn, ac at unrhyw ofynion eraill a osodir yn unrhyw ddeunydd hyrwyddo fel petaent wedi’u gosod yn y telerau ac amodau hyn.
- Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gennych yn wir, yn gyfredol ac yn gyflawn. Gallwn wrthod unrhyw geisiadau sy’n anghyflawn, yn annealladwy neu wedi’u diwygio, ceisiadau lluosog, neu unrhyw gais sy’n torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg i wirio manylion unrhyw ymgeisydd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i enw, oed a chyfeiriad.
- Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sy’n mynd ar goll neu’n hwyr yn cyrraedd, neu sydd wedi’u llygru neu’u hanfon ar gam am ryw reswm.
- Mae ‘na dair prif wobr ranbarthol ar gael, un yr un yn Lloegr, Yr Alban a Chymru. Y wobr yw Gwely a Brecwast ar fferm ar gyfer hyd at 4 o bobl, gan gynnwys copi o’r ‘Countryfile Great British Walks Guide’ ac ymweliad â fferm laeth gwbl weithredol, ac mae ar gael ar benwythnosau. Mae’r wobr yn ddilys am 6 mis o’r dyddiad y cyhoeddir enw’r enillydd a rhaid ei chymryd yng ngwlad breswyl yr enillydd. Caniateir plant os ydyn nhw yng nghwmni oedolyn.
- Cynigir 10 ail wobr, sef copïau o’r ‘Countryfile Great British Walks Guide’.
- Bydd pob ymgeisydd sy’n dewis anfon dolen y gystadleuaeth ymlaen i ffrindiau a theulu’n cael ei gynnwys ddwywaith yn y gystadleuaeth yn awtomatig. Dim ond un cais ychwanegol a ganiateir i unrhyw ymgeisydd.
- Does dim arian neu wobrau eraill amgen yn gyfan neu’n rhannol, oni bai bod yna amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i gynnig gwobr amgen o werth tebyg neu uwch. Oni bai bod hynny wedi’i gytuno gyda’r Hyrwyddwr, ni chaniateir i’r enillydd i drosglwyddo’r hawl i dderbyn y wobr i unrhyw un arall.
- Bydd yr enwau cyntaf a dynnir ar hap o blith yr holl geisiadau dilys dan oruchwyliaeth annibynnol ar ddiwedd yr hyrwyddiad yn ennill y wobr. Mae penderfyniad yr Hyrwyddwr yn un terfynol ac ni fydd unrhyw ohebu’n cymryd lle.
- Caiff yr enillwyr eu hysbysebu drwy e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith o’r dyddiad cau. Os na fydd yr enillwyr yn ymateb i’r hysbysiad hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith pellach, mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i atal y wobr, a rhoi’r wobr i enw(au) wrth gefn a ddewiswyd ar yr un pryd â’r enillydd gwreiddiol.
- Bydd enw a sir yr enillydd i’w weld ar www.thisisdairyfarming.com o fewn 1 mis o’r dyddiad cau.
- Gall fod angen i’r enillydd gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd rhesymol mewn perthynas â’r wobr heb unrhyw dâl.
- Defnyddir eich manylion personol at ddibenion gweinyddu’r hyrwyddiad hwn a chyflenwi’r wobr yn unig, ac ni fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti nad yw’n gysylltiedig â’r ymgyrch/gystadleuaeth Discover Dairy.
- Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr hyrwyddiad yn cytuno i gadw at y telerau ac amodau hyn. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl yn ôl ei ddisgresiwn ei hun i ddiarddel unrhyw gyfranogwr sy’n cam-ddefnyddio neu’n amharu ar yr hyrwyddiad, neu sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n torri’r telerau ac amodau yn nhyb yr Hyrwyddwr.
- Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i atal, diwygio neu ohirio’r hyrwyddiad yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.
- Weithiau, am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr, mae’n bosib na fydd y wefan ar gael (fel unrhyw wefan arall). Ni all yr Hyrwyddwr warantu mynediad parhaus, di-dor i’r wefan. Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw anhawster i gymryd rhan neu unrhyw geisiadau/hawliadau sy’n araf yn cyrraedd neu wedi’u llygru.
- Hyd yr eithaf a ganiateir yn ôl y gyfraith, ni fydd yr Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw golled a/neu anaf personol a ddioddefir gan yr enillydd neu unrhyw berson arall o ganlyniad i gymryd rhan yn yr hyrwyddiad neu’r wobr.
Hyrwyddwr: Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
(AHDB) – adain DairyCo, Stoneleigh Park, Kenilworth, Warwickshire CV8 2TL.